Bywgraffiad / Biography

Mae Cerys Hafana yn gyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei cherddoriaeth yn chwarae efo posibiliadau unigryw’r delyn deires, gan gymryd ysbrydoliaeth o ddeunydd archifol a phrosesu electronig.

Rhyddhawyd Edyf, ei hail albwm, yn 2022, a chafodd yr albwm ei ddewis fel un o ddeg albwm traddodiadol gorau’r flwyddyn gan y Guardian. Ym mis Ionawr 2023, cafodd Cerys hefyd ei chynnwys ar raglen ‘Uchafbwyntiau 2022’ Cerys Matthews ar BBC 6 Music.

Mae Edyf wedi ei seilio yn bennaf ar ddeunydd o archif ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys darnau o alawon salm, emynau sy’n sôn am ddiwedd y byd a myfyrdodau athronyddol ar y cysyniad o dragwyddoldeb, yng nghyd ag ambell gyfansoddiad gwreiddiol. Mae’r albwm yn cael ei pherfformio yn bennaf y delyn deires, ond hefyd yn cynnwys Sam Robinson ar y bodhrán, Jordan Price Williams ar y bas dwbl a’r soddgrwth, Elaine Turnbull ar yr althorn, a sŵn botel dwr yn cael ei tharo.

Cerys Hafana is a composer and multi-instrumentalist who mangles, mutates, and transforms traditional music. She explores the creative possibilities and unique qualities of the triple harp, and is also interested in found sounds, archival materials and electronic processing. She comes from Machynlleth, Wales, where rivers and roads meet on the way to the sea.

Edyf is her second album, released in 2022, and was selected as one of The Guardian’s Top Ten folk albums of 2022. In January 2023, Cerys was also featured on Cerys Matthews’ BBC 6 Music ‘Highlights of 2022’ New Year show.

Edyf is largely based on material found in the Welsh National Library’s online archive, including fragments of Psalm tunes, hymns about doomsday and philosophical musings on the length of eternity, along with some original compositions. The album is primarily performed on the Welsh triple harp, but also features bodhrán, double bass, althorn and the electronically processed sounds of a water bottle being hit. 

Heledd Wyn