Geiriau

Comed 1858

Draw yn yr eangderau / Ymddengys hwyr a borau
Wib-seren hynod / O fewn y cylch serawnog
Does blaned mor fawreddog / A hon i’w chanfod.

Dros fil o filoedd / Maith o filltiroedd
Drwy’r hardd ardaloedd / A grognant wch y llawr
Pa ddyn all chwilio allan / Wir angian hon yn awr?

Hi heria holl allnoedd / Seryddwyr mawr yr oesoedd
A’u gwydr-ddrychau / I’w chwilio hyd yr eithaf A chanfod cylchoedd pellach
Pob oes yng nghyfwng amser / Datguddia ryw orwychder.

Pe engyl gwlad goleuni / Ar edyn ddeuai’n codi
Ar daith felltenawl / Cae, weled myrdd myrddiynau
O newydd ryfeddodau / Y broydd wybrenawl.

O’r sail ymsiglant / Ac ymollyngant
Pob defnydd doddant / A’r ser a syrthiant lawr
Yr haul a’r lloer a dduant / O ryfedd, ryfedd awr.

Tragwyddoldeb

Tragwyddoldeb! Tragwyddoldeb! / Beth yw’th hyd di, Dragwyddoldeb?

Atat cyrchu a wna amser, / Fel march rhyfel yn ei gryfder
Fel rhedegwyr, y cyflyma’, / Llong i borth, neu saeth o fwa:
Megys pelen gron gyfanedd, / Heb fod iddi ben na diwedd;
Felly Tragwyddoldeb yntau / Sydd heb ddiwedd ac heb ddechrau:

Cylch wyt ti sy’n ddiderfynol, / ‘NAWR TRAGYWYDD yw dy ganol;
Tu hwnt cyraedd neb creadur / Allu rhoddi arnat fesur:
Gall aderyn gym’ryd ymaith / Mewn maith amser fynydd helaeth.
Trwy ddod unwaith bob cann mlynedd / Gwedi hyn – dim nes dy ddiwedd:

Y M​ô​r o Wydr

Fel ar y môr o wydr / Rwy’n brysio o ma’n brysur, / Tua thrag’wyddoldeb:
O dwg fi o’r dyfnderoedd, / I nofio tua’r nefoedd, / Mewn prysurdeb;
Un ran, wy’n geisio i f’enaid gwan –

Nid wrth im’ rwyfo’n rhywfodd, / Y deuaf o’r dyfndero’dd / I ben fy siwrne;
O dwg fy enaid clwyfus / O’r dyfroedd dyfnion dyrus, / I’m tirion artre’;
Mae’m taith, trwy’r tonnau mawrion maith,
A’r ochor draw ca’i ganu’ / Ac fyth ryfeddu’th waith;

Defnyddiau i gyd a doddant, / A’r dda’r a’r nef a grynant, / Trwy ddirfawr allu:
Bydd ser y nef yn syrthio, / A’th air yn cael ei wirio / Yn eglur ini:
Does le in’ yna yn y ne’,
Er dim ni ddeu’m i dreio / Ar droed i maes o dre.

Fel ar y môr o wydr / Rwy’n brysio oddiyma o brysur, / Tua thrag’wyddoldeb:
O dwg fi o’r dyfnderoedd, / I nofio tua’r nefoedd, / Mewn prysurdeb;
Fe gân yr udgorn o dy fla’n,
A’r byd yn wenfflam olau, / A’r mor a’i donau’n dân

Y dua’r haulwen sy’n y ffurfafen, / Y syrth pob seren
Nes clywo’r meirw o’r bedd yn groyw, / Lef yn eu galw
Mewn synus eiriau’n d’we’yd wrth y creigiau, Dewch am ein penau;
Mewn gwisgoedd gwynion, a’u tanau’n dynion, / Yn canu’n eon

Mae yna filoedd / draw yn y nefoedd, / Ddaeth o’r dyfnderoedd
A’r tan a’r dwfr / Sydd fel yn bentwr, /Dwg fi sydd wanwr,
Sef arch i’m cadw, / Tro’i ar y dilnw, / Cei glod i’th enw,
Mae’n lampau’n diffodd nid oeddem barod, / Waith ini wrthod / ei hynod alwad e’,

Fel ar y môr o wydr / Rwy’n brysio o ma’n brysur, / Tua thrag’wyddoldeb.

Hen Garol Haf

Mab wy’n chwennych yn fy chwen
I ganu pennill mwyn o’m pen;
Ac os cerwch chwi hawddgarwch,
Byth na syniwch roi i mi sen.
Nôl fy neall canu wnaf
Glyd eiriau’n rhwydd o glod i’r Haf,
Wrth ei weled mor hawddgarol
Ei liw ar led, bro euraidd braf.

Dolydd a gyweirglodd-dir clau,
Eu gweld yn rhywdd a gaiff pob rhai,
Tan fargodion glennydd gloywon
Mor hyfrydlon meillion Mai.
Llysiau, llafur, graendir, grawn,
Ffrwyth ar goedydd bronwydd brawn,
Rhos a lili, lanwych lwyni
A fyddant felly’n llenwi’n llawn.

Bydd yr adar yn y gwydd
Gydag agor tor y dydd
Yn ei roeso gan ymbincio
Ceir eu gweled wrth rodio’n rhydd.
Fe ddaw’r gog a’r ceiliog du,
Y fronfraith gron a’i chywion cu,
A Philomela i’r fro hyfryda,
A’u llais llawena, llona llu.